Afon Tigris seu m H ieP5 Oo ipee dos
|
| |
| Math |
Afon |
|---|---|
|
| |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad |
Irac, Syria, Twrci |
| Cyfesurynnau |
38.4333°N 39.7728°E, 38.5032°N 39.5058°E, 31.0043°N 47.4421°E |
| Tarddiad |
Lake Hazar |
| Aber |
Shatt al-Arab |
| Llednentydd |
Little Zab, Great Zab, Afon Botan, Khabur, 'Adhaim, Q21209994, Q21210285, Q21210929, Afon Batman, Afon Diyala, Afon Karkheh, Q3104693, Afon Khasa, Afon Khosr, Zab, Afon Sirwan, Q21695712, Q21199148, Q21695258, Q21210039, Q16371554 |
| Dalgylch |
375,000 cilometr sgwâr |
| Hyd |
1,850 cilometr |
| Arllwysiad |
1,014 metr ciwbic yr eiliad |
| Llynnoedd |
Lake Hazar |
|
| |
|
[golygwch ar Wicidata] | |
Afon fawr yn ne-orllewin Asia yw Afon Tigris (Arabeg: Dijah). Mae'n codi o lyn ym mynyddoedd Kurdistan yn ne-ddwyrain Twrci ac yn llifo i'r de-ddwyrain trwy ddinas Diyarbakir, ac yna ar hyd y ffîn rhwng Twrci a Syria ac wedyn i Irac. Ger Basra, tua 190 km i'r gogledd o Gwlff Persia mae'n ymuno ag Afon Ewffrates, ar ôl llifo ar gwrs cyfochrog i'r dwyrain o'r afon honno, i ffurfio'r cwrs dŵr a enwir Shatt al-Arab. Ei hyd yw 1900 km (1180 milltir).
Yn y diriogaeth a elwir Irac heddiw roedd afonydd Tigris ac Ewffrates yn ffurfio 'Y wlad rwng y Ddwy Afon', sef Mesopotamia, lle blodeuai rhai o wareiddiaid pwysicaf yr Henfyd, gan gynnwys Assyria, Acad, Swmer a Babilonia.
Credir mai Afon Tigris yw Afon Hidecel y cyfeirir ati yn Llyfr Genesis; un o Bedair Afon Paradwys yn y traddodiad Beiblaidd.
Trefi a dinasoedd ar lan yr afon[golygu | golygu cod y dudalen]
- Elazig, Twrci
- Diyarbakir, Twrci
- Cizre, Twrci
- Mosul, Irac
- Tikrit, Irac
- Samarra, Irac
- Baghdad, Irac
- Al-Amarah, Irac
- Basra, Irac